Polisi Preifatrwydd

Ceir trosolwg cyffredinol isod o'r ffordd y byddwn yn trin y wybodaeth a roddir gennych.

Pwy ydym ni

Y Bwrdd Taliadau yw rheolydd data’r wybodaeth a roddir gennych, a bydd yn sicrhau y caiff y wybodaeth hon ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Pam rydym yn casglu'r wybodaeth hon

Caiff y sylwadau a gyflwynir gennych eu defnyddio er mwyn llywio adolygiad y Bwrdd Taliadau o’r cymorth staffio i Aelodau.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth

Bydd aelodau'r Bwrdd Taliadau ac ysgrifenyddiaeth y Bwrdd (cyflogeion Comisiwn y Cynulliad) sy'n rhan o'r ymgynghoriad yn gweld yr holl sylwadau a gyflwynir. Caiff eich gwybodaeth ei chadw ar rwydwaith TGCh Comisiwn y Cynulliad (sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft). Mae unrhyw drosglwyddiad data gan Microsoft y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd.

Cyhoeddi sylwadau    

Mae'n bosibl y bydd y Bwrdd Taliadau yn cyhoeddi'r sylwadau a gyflwynir gennych i'r ymgynghoriad hwn, yn rhannol neu'n llawn, ar wefan y Bwrdd. Mae hefyd yn bosibl y bydd yn cyhoeddi darnau o'r sylwadau a gyflwynir gennych mewn dogfennau a gaiff eu llunio ar ôl yr ymgynghoriad a'u cyhoeddi ar wefan y Bwrdd. Bydd sylwadau a gaiff eu cyflwyno a'u cyhoeddi ar wefan y Bwrdd yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd.

Rhowch wybod inni pe bai’n well gennych i ni beidio â chyhoeddi'r sylwadau a gyflwynir gennych neu ddarnau ohonynt.

Os bydd y Bwrdd yn cyhoeddi sylwadau a gyflwynwyd gennych ar ran sefydliad, bydd yn cynnwys eich enw chi, teitl eich swydd, ac enw’r sefydliad gyda’ch sylwadau. Os bydd yn cyhoeddi sylwadau a roddwyd gennych chi’n bersonol, dim ond os ydych wedi gofyn i ni gyhoeddi eich enw y byddwn yn gwneud hynny.

Am faint o amser y caiff eich gwybodaeth ei chadw

Caiff yr ymatebion eu cadw nes i'r Bwrdd Taliadau orffen yr ymgynghoriad ac unrhyw waith dilynol yn y meysydd a amlinellir yn y ddogfen hon. Rhagwelir y bydd ei waith yn parhau tan fis Mai 2020 gan fod y Bwrdd wedi ymrwymo i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn etholiad cyffredinol Cymru yn 2021.

Cysylltu â chi

Mae’n bosib y bydd y Bwrdd yn defnyddio'r manylion cyswllt a roddir gennych i gysylltu â chi mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn a'r sylwadau a gyflwynwyd gennych, ac unrhyw waith ychwanegol a wneir fel rhan o'r adolygiad hwn. Wrth ymateb i'r ymgynghoriad, rhowch wybod i ni a ydych am i ni gadw eich manylion cyswllt a chysylltu â chi at y dibenion hyn. Os penderfynwch eich bod yn fodlon i ni barhau i gysylltu â chi, cewch roi gwybod i ni, ar unrhyw adeg, nad ydych am i ni wneud hynny mwyach.

Ceisiadau am wybodaeth a wneir i Gomisiwn y Cynulliad

Os gwneir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, gall fod angen datgelu'r cyfan neu rywfaint o'r wybodaeth a roddwyd gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a gafodd ei dileu o'r blaen gan y Bwrdd Taliadau at ddibenion cyhoeddi. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y bydd y Bwrdd yn gwneud hynny.

Eich hawliau

Caiff eich data personol eu prosesu er mwyn i'r Bwrdd Taliadau ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd.

Os hoffech:

-    arfer unrhyw un o'r hawliau sydd gennych o dan y ddeddfwriaeth (megis yr hawl i ofyn am gael mynediad at eich data eich hun);

-    gofyn cwestiwn; neu

-    gwyno am y ffordd y defnyddiwyd eich gwybodaeth;

cysylltwch â'r ysgrifenyddiaeth.

Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn credu nad ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth yn unol â'r gyfraith. Ceir manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar ei gwefan - www.ico.org.uk